Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Mae papur gan y Swyddfa Gartref yn awgrymu gosod uchafswm o 75,000 ar y nifer sy’n gallu mewnfudo i Brydain o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddai hyn 31,000 yn llai na’r 106,000 o fewnfudo net sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae’r papur yn rhan o adolygiad o dan oruchwyliaeth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May o effeithiau ffiniau agored yr Undeb Ewropeaidd.

Mae rhai o’r awgrymiadau eraill ynddo’n cynnwys rhoi ffafriaeth i ddinasyddion Prydain drwy neilltuo swyddi ar eu cyfer a chyfyngu ar fewnfudo o wledydd tlotach yr Undeb Ewropeaidd hyd nes y bydd eu GDP yn 75% o GDP y Deyrnas Unedig.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fodd bynnag, partneriaid y Torïaid yn y llywodraeth glymblaid, fod y cynigion yn rhai ‘chwerthinllyd’.

“Allai cynigion o’r fath ddim cael eu derbyn heb adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar eu rhan. “Dyw hyd yn oed y Torïaid ddim yn credu bod modd ail-drafod telerau i’r graddau hyn.”