Iain Duncan Smith
Fe fydd Iain Duncan Smith yn wynebu rhagor o gwestiynau gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’r oedi i gyflwyno newidiadau i’r sustem fudd-daliadau.

Mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau wedi cyfaddef na fydd yn cyrraedd y targed o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn llawn erbyn 2017.

Mae’n  golygu y bydd 700,000 o bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn wynebu rhagor o oedi.