Tony Blair
Mae’r Arglwydd Mandelson wedi dweud fod Tony Blair wedi gwneud y peth iawn wrth geisio creu perthynas â Muammar Gaddafi pan oedd yn brif weinidog.

Cadarnhaodd bod Tony Blair wedi siarad ag arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, yn ystod y dyddiau diwethaf. Ychwanegodd fod ei fab Saif Gaddafi yn gweld yr angen am ddemocratiaeth yn y wlad.

Dywedodd yr Arglwydd Mandelson wrth raglen Andrew Marr nad oedd Tony Blair wedi gwneud “unrhyw beth o’i le” wrth helpu busnesau o Brydain wneud busnes â llywodraethau unbenaethol.

“Roedd Tony Blair yn gwbl gywir i geisio dod a Gaddafi i mewn i’r gymdeithas ryngwladol,” meddai.

“Mae wedi bod mewn cysylltiad â Gaddafi dros y dyddiau diwethaf ac rydw i’n cefnogi hynny’n llwyr.”

Dywedodd Peter Mandelson fod Tony Blair wedi dweud wrth Muammar Gaddafi y dylai roi’r gorau i honni y bydd yn marw yn ferthyr a chaniatáu trawsnewidiad i ddemocratiaeth yn y wlad.

“Roeddwn i wedi cael yr argraff, wrth siarad â mab Gaddafi ond hefyd ambell un o’i amgylch, nad oedden nhw’n hapus iawn â Gaddafi,” meddai’r Arglwydd Mandelson.

“Mae yna gydnabyddiaeth bod rhaid i Libya fynd i gyfeiriad gwahanol, gan ganiatáu i arweinwyr a phleidiau eraill ddatblygu.”