Cyrnol Gaddafi
Mae dwy o awyrennau Hercules yr RAF wedi cludo dros 150 o dramorwyr o Libya heno.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox fod y bobl wedi cael eu hachub o fannau anghysbell yn yr anialwch i’r de o Benghazi.

Mae’r ddwy awyren bellach wedi glanio ym Malta.

Fe gafodd y cyrch ei drefnu ar y cyd rhwng Prydain a gwledydd eraill er mwyn achub y gweithwyr tramor olaf yn Libya yn wyneb y peryglon cynyddol yn y wlad.

Mae awyren arall newydd adael Tripoli heno am faes awyr Gatwick yn cludo 53 o ddinasyddion Prydeinig.

Hon oedd yr awyren olaf i gael ei chomisiynu gan y Llywodraeth i achub Prydeinwyr o’r wlad.

Mae’r bobl ar fwrdd yr awyren yn cynnwys staff llysgenhadaeth Prydain yn Libya, sydd wedi cau dros dro. 

Yn gynharach heddiw, cafodd 116 o bobl, gan gynnwys 68 o Brydain,  eu hedfan o Malta i faes awyr Gatwick heddiw. Roedden nhw wedi ffoi o Libya i Malta ar long y Llynges Frenhinol, HMS Cumberland.

Roedd llawer ohonyn nhw’n dystion i’r anhrefn cynyddol ar strydoedd y brifddinas Tripoli, gyda gangiau’n ysbeilio ac yn dwyn.

Fe fydd HMS Cumberland wedi cychwyn yn ôl am Benghazi yfory i achub unrhyw Brydeinwyr eraill a all fod ar ôl.