Mae llywodraeth Prydain yn bygwth tynnu’n ôl o un o sefydliadau’r Cenhedloedd Unedig sy’n mynd i’r afael â newyn byd-eang oni bai y bydd y corff hwnnw’n gwella’i berfformiad.
Mae adolygiad o wariant Prydain ar gymorth tramor wedi dod i’r casgliad nad yw’r arian sy’n cael ei wario trwy Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig yn cael yr effaith y dylai mewn gwledydd tlawd.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, yn rhybuddio’r wythnos nesaf fod yn rhaid cael diwygiadau i’r Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth os yw Prydain am aros yn rhan ohono.
Yn ôl adolygiad yr Adran Datblygu Rhyngwladol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, fe fyddai modd galluogi pedair miliwn yn fwy o bobl i fwydo’u teuluoedd a helpu dros 10 miliwn yn rhagor o blant wrth wario’r arian yn annibynnol.
Mae’r prosiectau sy’n cael eu hargymell yn yr adolygiad yn cynnwys adeiladu ffyrdd ym Mozambique er mwyn rhoi marchnadoedd gwledig o fewn cyrraedd, creu 150,000 o swyddi amaethyddol i ferched yn Sierra Leone ac arian i dlodion Zambia a Yemen i brynu bwyd.
Er yn cydnabod y “rôl allweddol y gallai’r Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth” ei chwarae, dywed yr adolygiad fod ei berfformiad yn “anwadal, yn enwedig ar lefel gwlad, a rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiwygiadau.”