Mae gweithwyr cannoedd o swyddfeydd post y Goron am fynd ar streic hanner diwrnod brynhawn Mercher 20 Tachwedd a hynny am y trydydd tro ar ddeg ers y Pasg.

Mae trafodaethau rhwng Swyddfa’r Post ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) am swyddi, cyflog a chynlluniau i gau rhai swyddfeydd, wedi methu unwaith eto.

Yn ôl y CUW bydd y streic yn cael effaith ar hyd at 4,000 o staff mewn 372 o swyddfeydd y Goron – sef y swyddfeydd post mwyaf sydd fel arfer i’w cael ar y stryd fawr.

Bydd tua 2,000 o aelodau’r CUW sydd mewn swyddi gweinyddol a chyflenwi yn mynd ar streic 24 awr yr un diwrnod a bydd y rheolwyr hynny sy’n perthyn i undeb UNITE hefyd yn gweithredu’n ddiwydiannol.

Dim awydd

Dywedodd Dave Ward, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol y CUW ei fod yn credu nad ydi rheolwyr Swyddfa’r Post yn ymddwyn fel ‘tae nhw eisiau datrys yr anghydfod.

“Os ydi’r anghydfod yma yn parhau tan y Nadolig yna bai y cwmni yn llwyr fydd hynny.

“Mae rheolwr Swyddfa’r Post allan o gysylltiad efo’u staff a’u cwsmeriaid ynglyn â chynlluniau i gau swyddfeydd y Goron a thorri yn ôl ar staff.”