Mae dyn wedi cael ei arestio gan heddlu Suffolk ar amheuaeth o wneud neu bod â dyfais ffrwydrol yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganolfan hamdden yn Sudbury yn hwyr neithiwr ar ôl adroddiadau bod dyn wedi bygwth aelod o staff a thaflu dyfais fechan oedd ar dân i mewn i ystafell.

Cafodd y ddyfais ei diffodd yn syth a chafodd neb ei anafu.

Fe waneth yr heddlu arestio dyd 33 oed yn ddiweddarach ac mae nhw bellach yn chwilio tŷ yn y dref.