Mae disgwyl y bydd siopwyr ym Mhrydain yn gwario dros £300 miliwn ar ddathliadau Calan Gaeaf eleni, yn ôl arbenigwyr busnes.

Mae hyn yn cymharu â £12 milwn a gafodd ei wario yn 2001. Calan Gaeaf yw trydydd tymor siopa prysuraf y flwyddyn bellach ar ôl y Nadolig a’r Pasg.

Y gred yw mai cyfuniad o ddylanwad Americanaidd a’r ffaith fod rhagor o nwyddau themau iasol ar gael sy’n gyfrifol.

“Bob blwyddyn, mae Calan Gaeaf yn tyfu, o safbwynt yr arian mae pobl yn ei wario a’r ymdrech y maen nhw’n ei wneud â’u gwisgoedd,” meddai Emma Angel, cyfarwyddwr siop gwisgoedd ffansi yn Llundain. “Mae’n archebion ar-lein 50% i fyny ar yr hyn oedden nhw flwyddyn yn ôl.”