Liam Fox
Fe wnaeth y cyn Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, lwyddo i hawlio tair ceiniog am daith o 96.5 metr yn ei etholaeth yng Ngolgedd Gwlad yr Hâf ym mis Hydref 2012.

Mae adroddiad gan yr Awdurdod Safonnau Seneddol Annibynnol hefyd yn nodi ei fod wedi hawlio llai na phunt am deithio pymtheg gwaith yn ystod 2012/13 gan gynnwys 24c am daith 0.54 milltir yn Clevedon a 44c am daith 0.98 milltir yn Winford.

Mae aelodau seneddol yn cael hawlio 45 ceiniog y filltir.

Dywedodd Mr Fox wrth bapur y Sunday People mai staff ei swyddfa sy’n hawlio’r treuliau ar ei ran.

“Mae hyn oll yn cael ei wneud yn unol a’r rheolau ynglyn â theithio,” meddai.

Bu’n rhaid i Liam Fox dalu £3,000 o dreuliau yn ôl llynedd am adael i’w gyfaill Adam Werritty fyw yn ddi-rent yn ei ail gartref oedd yn cael ei dalu amdano gan y trethdalwyr.