Mark Cavendish
Syr Bradley Wiggins yw pencampwr ras feiciau’r Tour of Britain ar ôl i Mark Cavendish ennill cymal olaf y daith yn Llundain y prynhawn yma.

Mewn diwedd dramatig i’r ras yn Whitehall, llwyddodd Cavendish i groesi’r llinell o flaen Alessandro Petacchi, a chipio buddugoliaeth i Team Sky.

Ac yntau wedi ennill pedwerydd cymal y ras yn Llanberis ddydd Mercher, a’r seithfed cymal yn Guildford ddoe, dyma’i drydedd buddugoliaeth mewn pum niwrnod.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol iddo hefyd ennill cymal olaf y Tour of Britain.

Fel yr un oedd yn gwisgo jersi aur Team Sky, fodd bynnag, Wiggins oedd pencampwr y Tour of Britain yn ei gyfanrwydd.

Ar ôl gorfod tynnu’n ôl o’r Giro d’Italia a cholli cyfle i amddiffyn ei deitl yn y Tour de France eleni, dyma’i fuddugoliaeth gyntaf mewn ras gymalau ers ennill y Tour de France y llynedd.