Caerdydd 0–1 Tottenham
Torrwyd calonnau Caerdydd yn yr eiliadau olaf wrth i gôl hwyr Paulinho sicrhau buddugoliaeth i Tottenham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul.
Sgoriodd y gŵr o Frasil unig gôl y gêm ym mhedwerydd munud yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y naw deg munud.
Llwyr reolodd Spurs y gêm i gyd gan gael y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd ond llwyddodd yr amddiffyn cartref a David Masrshall yn y gôl rywsut i’w chadw hi’n ddi sgôr am naw deg munud a mwy.
Gwnaeth yr Albanwr rhwng y pyst i Gaerdydd sawl arbediad da ond ni allai wneud dim i atal Joe Paulo Paulinho yn yr eiliadau olaf. Derbyniodd y chwaraewr canol cae’r bêl yn y cwrt chwech gan Erik Lamela cyn canfod cefn rhwyd Caerdydd gyda sodliad deheuig.
Chafodd y tîm cartref yr un cynnig ar y targed trwy gydol y gêm a doedd dim amser iddynt ymateb wedi’r gôl hwyr pryn bynnag.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr unfed safle ar bymtheg ac yn codi Tottenham i’r ail safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Taylor, Caulker, Turner, Theophile-Catherine, Whittingham, Medel, Kim Bo-Kyung, Gunnarsson, Bellamy (Cowie 78′), Campbell (Odemwingie 65′)
Cerdyn Melyn: Turner 63’
.
Tottenham
Tîm: Lloris, Walker, Vertonghen, Naughton, Dawson, Paulinho, Townsend (Kane 82′), Dembele, Sigurdsson (Lamela 71′), Eriksen (Holtby 89′), Soldado
Gôl: Paulinho 90’
Cardiau Melyn: Walker 7’, Townsend 47’, Dawson 70’, Soldado 90’
.
Torf: 27,815