Crystal Palace 0–2 Abertawe
Parhau a wnaeth wythnos dda Abertawe ym Mharc Selhurst brynhawn Sul wrth iddynt drechu Crystal Palace yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd goliau cynnar yn y ddau hanner gan Miguel Michu a Nathan Dyer yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Elyrch dros yr Eryrod.
Ychydig dros funud oedd ar y cloc pan roddodd Michu yr ymwelwyr ar y blaen. Gwyrodd pas Jonjo Shelvey i’w lwybr yn y cwrt ac ergydiodd y Sbaenwr trwy goesau Julian Speroni yn y gôl.
1-0 i Abertawe ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf – gyda’r ymwelwyr yn pwyso ac yn sgorio yn y munudau cyntaf. Arbedodd Speroni gynnig Alvaro Vazquez cyn cael ei guro gan Dyer.
Rheolodd y Cymry weddill y gêm hefyd ac fe wnaeth Speroni yn dda i gadw’r sgôr fel oedd hi wrth i’r ymwelwyr sicrhau buddugoliaeth gymharol gyfforddus.
Mae’r tri phwynt yn eu codi i’r nawfed safle ac yn cadw Crystal Palace yn y tri isaf.
.
Crystal Palace
Tîm: Speroni, Mariappa, Gabbidon, Moxey, Delaney (Campana 46′), Jedinak, Guedioura, Bannan (Thomas 67′), Puncheon, Chamakh, Jerome (Gayle 67′)
Cardiau Melyn: Moxley 28’, Chamakh 51’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Shelvey, Michu, Dyer (Pozuelo 71′), Routledge, Canas (Britton 78′), Vazquez (De Guzman 61′)
Goliau: Michu 2’, Dyer 48’
Cardiau Melyn: Rangel 50’, Chico 73’
.
Torf: 22,466