Mae chwyddiant wedi gostwng rhywfaint i 2.7% ym mis Awst, yn ôl ffigurau swyddogol.
Mae siopau wedi cadw prisiau dillad ar gyfer yr hydref yn is ac mae’r cynnydd mewn prisiau petrol wedi arafu, gan arwain at ostyngiad yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) o 2.8% ym mis Gorffennaf.
Roedd llai o gynnydd wedi bod hefyd ym mhrisiau cwmnïau hedfan.
Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau roedd y mynegai prisiau manwerthwyr (RPI) wedi cynyddu o 3.1% i 3.3%.