Roedd dros 100 o bobol yn bresennol mewn cyfarfod ym mhentref Gwyddgrug, Pencader neithiwr i drafod cysylltu tyrbinau gwynt i’r Grid cenedlaethol.

Cytunwyd y byddai codi peilonau i gysylltu gwifrau o ffermydd gwynt yng Nghoedwig Brechfa yn “difetha” tirwedd yr ardal.

Mae’r cyngor sir a’r bobol leol yn galw am osod gwifrau o dan y ddaear yn hytrach na bwriad Western Power Distribution (WPD) o ddefnyddio peilonau – sy’n ymddangos yn llai costus i’r cwmni.

Negeseuon pendant

Dywedodd Olwen Davies, oedd yn y cyfarfod neithiwr, ar y Post Cynta ei bod yn fodlon gyda chanlyniadau’r cyfarfod.

Roedd pobol o’r farn nad yw ymgynghoriad WPD wedi bod yn ddigon agored.

“Mae WPD yn dweud eu bod nhw am ystyried y gwrthwynebiad. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr o hyn.

“Maen nhw’n dod yn rhy agos i gartrefi pobl – allwn ni ddim ei gael e.”

Cam nesaf

Bwriad y gymuned yw cyd-weithio gyda Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC i ymgyrchu ymhellach dros osod y gwifrau o dan y ddaear.