Shrien ac Anni Dewani'n priodi
Bydd Shrien Dewani, sydd wedi’i amau o drefnu llofruddiaeth ei wraig Anni ar eu mis mêl yn Cape Town yn 2010, yn cael ei estraddodi i Dde Affrica i sefyll ei brawf.
Mae ei gyfreithwyr yn bwriadu apelio’r penderfyniad.
Wrth annerch Llys Ynadon Westminster, dywedodd y Prif Ynad Howard Riddle y dylai Dewani, sy’n 33 oed, fynd i Dde Affrica.
Ond mae ei gyfreithwyr yn honni y byddai’n niweidiol i’w gyflwr meddyliol.
Roedd ei dîm cyfreithiol wedi ceisio gohirio’r penderfyniad am gyfnod o chwe mis.
Roedd y llys yn orlawn, gyda theulu Anni Dewani yn gwisgo lluniau ohoni ar eu crysau-t.
Mae Dewani, oedd yn arfer bod yn ddyn busnes, wedi ei gyhuddo o gynllwynio llofruddiaeth ei wraig, a gafodd ei saethu yn ei phen y tu allan i Cape Town yn Nhachwedd 2010.
Mae’n dioddef o iselder ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty ym Mryste.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu y byddai ei dîm cyfreithiol yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
“Mae Shrien yn barod i ddychwelyd i Dde Affrica pan fydd ei gyflwr meddygol wedi gwella digon iddo fedru dygymod â phrawf a phan fydd mesurau yn eu lle i sicrhau ei iechyd a’i ddiogelwch.”