Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cyhuddo dyn o’r Iwcrain o lofruddio dyn 82 oed wrth iddo gerdded adref o fosg.

Honnir bod Pavlo Lapshyn, 25, wedi llofruddio Mohammed Saleem ym Mirmingham ym mis Ebrill.

Bydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster fory.

Cafodd Lapshyn ei arestio’r wythnos diwethaf gan yr heddlu gwrthderfysgaeth, a’i holi mewn perthynas â chyfres o ffrwydradau ger adeiladau mosg yn Walsall, Wolverhampton a Tipton, ac mae’r ymchwiliad hwnnw’n parhau.