Mae’r newyddiadurwr cyntaf y tu allan i News International i gael ei gyhuddo o wneud taliadau llwgr wedi ymddangos gerbron llys.

Mae dirprwy olygydd newyddion y Daily Star Sunday, Tom Savage wedi’i gyhuddo o dalu swyddog carchar Woodhill am wybodaeth am garcharor adnabyddus.

Mae e’n wynebu un cyhuddiad o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yr wythnos diwethaf, cafodd cyn-olygydd torcyfraith News of the World, Lucy Panton ei chyhuddo o gyflawni’r un drosedd.

Yn ôl yr erlynwyr, derbyniodd y swyddog carchar, Scott Chapman a’i gynbartner Lynn Gaffney filoedd o bunnoedd gan amryw bapurau newydd.

Mae Chapman wedi’i gyhuddo o werthu’r wybodaeth i News of the World, y Sun, y Daily Mirror, y Sunday Mirror, y People, y Daily Star a’r Star on Sunday rhwng mis Mawrth 2010 a mis Mehefin 2011.

Derbyniodd Chapman y taliadau trwy law Gaffney.

Mae’r ddau hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Newyddiadurwyr eraill

Mewn achos arall, mae cyn-olygydd newyddion a chyn-bennaeth newyddion y Sun, Chris Pharo wedi’i gyhuddo o awdurdodi taliadau i swyddogion y cyhoedd yn ysbyty carchar Broadmoor, plismyn Heddlu Llundain, swyddogion y Fyddin a swyddogion carchar rhwng mis Ionawr 2006 a mis Rhagfyr 2010.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yn y trydydd achos, mae newyddiadurwr y Sun, Jamie Pyatt a’r golygydd lluniau, John Edwards wedi’u cyhuddo o gynllwynio i dalu swyddogion y cyhoedd.

Honnir iddyn nhw gynllwynio gyda swyddogion carchar Broadmoor, plismyn Heddlu Llundain a Heddlu Surrey a swyddogion y Fyddin i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus rhwng mis Mawrth 2002 a mis Ionawr 2011.

Mae cyn-gynorthwy-ydd gofal iechyd yn Broadmoor, Robert Neave wedi’i gyhuddo o’r un drosedd.

Mae cyn-newyddiadurwr y Sun, Nick Parker a’r swyddog carchar, Lee Brockhouse hefyd yn y llys.

Mae Parker yn wynebu tri chyhuddiad o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac mae Brockhouse wedi’i gyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r naw wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron yr Old Bailey ar Awst 6.