Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i droseddau rhyw mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru wedi arestio dyn 72 oed ar amheuaeth o gyflawni wyth ymosodiad rhyw.

Honnir bod y dyn wedi ymosod ar blant 10 i 15 oed mewn gofal rhwng 1974 a 1986.

Mae’r dyn, sydd heb gael ei enwi, yn cael ei holi gan Heddlu’r Gogledd.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol, Keith Bristow.

Mae dau ddyn arall eisoes wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Cafodd dyn o Suffolk ei arestio ym mis Ebrill a’i ryddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd y mis hwn.

Cafodd yr ail ddyn o Gaerlŷr ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Medi.