Nigel Farage
Fe fu’n rhaid i arweinydd UKIP, Nigel Farage, gael ei achub gan yr heddlu yn Yr Alban ar ôl i brotestwyr ei amgylchynu a’i alw’n “Nazi scum”.

Cafodd tafarn Canons’ Gait ar y Royal Mile yng Nghaeredin ei gwagio gan staff wedi i’r lle lenwi gyda phrotestwyr.

Roedd Nigel Farage yn y ddinas er mwyn cynnal cynhadledd i’r wasg ger Senedd yr Alban yn rhan o ymgyrch isetholiad..

Ceisiodd arweinydd UKIP ddianc mewn tacsi ond fe rwystrodd y protestwyr ei lwybr a cafodd ei orfodi i ddychwelyd i mewn i’r dafarn.

Cafodd dau ddyn eu harestio ar ôl y brotest a cafodd Nigel Farage ei hebrwng oddi yno “er mwyn ei ddiogelwch” meddai Heddlu’r Alban.