Mae Heddlu De Cymru’n gofyn am dystion i ddwy ddamwain a ddigwyddodd ym Mro Morgannwg neithiwr.

Damwain 1

Mae bywyd plentyn 5 oed mewn peryg ar ôl cael ei daro gan gar yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr.

Digwyddodd y ddamwain ar Helo Fach yng Ngogledd Cornelly tua hanner awr wedi chwech neithiwr.

Mae’r plenty yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Ford Ka du oedd y cerbyd yn y gwrthdrawiad meddai Heddlu De Cymru mewn datganiad.

Damwain 2

Mae beiciwr wedi ei anfau’n difrifol wedi iddo golli rheolaeth o’i feic modur ger Porthcawl.

Digwyddodd y ddamwain tua hanner awr wedi naw neithiwr meddai Heddlu De Cymru.

Mae bywyd y dyn mewn peryg. Roedd yn gyrru beic modur 125cc coch

  • Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiadau, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y cerbydau, i gysylltu â Swyddfa Plismona Ffyrdd y Gorllewin ar 01792 456999 est 88-331, eu gorsaf heddlu lleol neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.

.