Co
Mae heddluoedd gogledd orllewin Lloegr wedi arestio chwech o bobl ym Manceinion a Glannau Merswy ar ôl i werth £12miliwn o’r cyffur cocên gael ei ganfod mewn fan yn Chelmsford swydd Essex dydd Sadwrn.

Mae’r pump dyn ac un ddynes wedi cael eu arestio ar amheuaeth o fewnforio cyffuriau anghyfreithlon dosbarth ‘A’.

Uned ‘Titan’ sef Uned Troseddau y Gogledd Orllewin oedd yn arwain yr ymchwiliad a dywedodd y pennaeth, y Ditectif Brif Arolygydd Jason Hudson y bydd hyn oll yn sicr o wneud gwahaniaeth i’w hymdrechion i daclo y rhai sy’n bennaf gyfrfiol am drefnu troseddau yng Ngogledd Orllewin Lloegr.