David Miliband
Mae David Miliband wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ildio’r awenau fel Aelod Seneddol.
Fe fydd y cyn ysgrifennydd tramor yn cymryd rôl gydag elusen ddyngarol yn Efrog Newydd.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband y byddai colled fawr ar ôl ei frawd David.
“Fe fydd gwleidyddiaeth Prydain yn lle dlotach heb David,” meddai.
Fe gollodd David Miliband y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur i’w frawd iau yn 2010.
Mewn llythyr at gadeirydd y blaid yn etholaeth South Shields, dywedodd David Miliband bod y penderfyniad i adael gwleidyddiaeth yn y DU wedi bod yn “anodd iawn”.
Ond dywedodd y byddai ymuno a’r elusen yn rhoi’r cyfle iddo helpu rhai o bobl fwyaf difreintiedig y byd.