Alex Salmond
Mae Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi cyhoeddi y bydd y refferendwm ar annibyniaeth yn cael ei gynnal ar Fedi 18 2014.

Cafodd y Bil Refferendwm ei gyhoeddi heddiw a dywedodd Salmond mai dyma’r “ddeddfwriaeth bwysicaf i gael ei gyflwyno” ers sefydlu’r Senedd yn 1999.

“Y flwyddyn nesaf mae dewis o ddau ddyfodol gan y bobol,” meddai arweinydd yr SNP.

“Mae pleidlais Na yn golygu dyfodol o lywodraethau na phleidleision ni amdanyn nhw, a thoriadau a pholisïau nad oedden ni wedi cefnogi.

“Mae pleidlais Ie yn golygu dyfodol ble y gallwn ni fod yn sicr, gant y cant, y bydd pobol yr Alban yn cael y llywodraeth y byddan nhw’n pleidleisio amdani.”

Y cwestiwn

Roedd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi ymweld â phrentisiaid peirianneg dur yn Renfrewshire heddiw a weldion nhw ddyddiad y refferendwm at ei gilydd.

Mae’r Llywodraeth wedi dechrau cyflwyno deddfwriaeth er mwyn caniatáu i bobol 16 a 17 oed bleidleisio yn y bleidlais bwysig.

Cwestiwn y Refferendwm fydd “A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”

Cytunodd Llywodraeth yr Alban i newid y cwestiwn gwreiddiol – “A ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?” – ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol ddweud ei fod yn rhy unochrog o blaid annibyniaeth.