George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn defnyddio’r Gyllideb yfory i wneud rhagor o doriadau gwerth £2.5 biliwn i Whitehall, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.

Bu George Osborne a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander yn amlinellu’r cynlluniau i’r Cabinet y bore ma. Mae’r Canghellor dan bwysau cynyddol i roi hwb i’r economi bregus.

Fe fydd iechyd, ysgolion, a Chyllid a Thollau EM yn cael eu diogelu rhag y toriadau, gyda llywodraeth leol a chyllid yr heddlu yn cael eu diogelu am y flwyddyn gyntaf.

Ond fe fydd yn rhaid i adrannau eraill Whitehall, fel yr amgylchedd, ynni, trafnidiaeth a chyfiawnder, wneud arbedion o 1% yn eu cyllid ar gyfer 2013/14 a 2014/15. Mae hynny ar ben y toriadau a wnaed yn yr hydref.

Mae hefyd yn golygu y bydd y toriadau o 1% yn cael eu hadlewyrchu yn yr arian sy’n cael ei roi i lywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd George Osborne wrth y Cabinet bod yr arbedion yn bosib gan fod adrannau wedi tanwario eu cyllidebau eleni. Fe fydd yn cymryd hynny i ystyriaeth wrth osod cyllidebau ar gyfer yr adrannau yn y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r Canghellor yn disgwyl i’r newidiadau mewn gwariant wneud arbedion o £2.5 biliwn i’r Trysorlys dros y ddwy flynedd nesaf.