Hinkley Point
Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth Prydain, Ed Davey wedi cymeradwyo cynllun i godi atomfa yn Hinckley Point yng Ngwlad yr Haf.
Hon fydd y drydedd atomfa ar y safle, 14 milltir yn unig o’r Barri ar draws afon Hafren.
Gallai’r safle gynhyrchu 7% o’r lefel trydan sydd ei angen ar y Deyrnas Gyfunol, ac fe fydd yn pweru hyd at bum miliwn o gartrefi.
EDF fydd yn codi’r atomfa.
‘Ar garreg drws Cymru’
Roedd nifer o fudiadau amgylcheddol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, gan ddweud eu bod nhw’n pryderu am y gwastraff niwclear fydd yn cael ei gynhyrchu.
Y llynedd rhybuddiodd CND Cymru fod Hinkley Point C “ar garreg drws Cymru” ac y byddai unrhyw ddamwain yno yn cael effaith ar dde Cymru.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru hefyd wedi rhybuddio fod Hinkley Point yn “fater mawr i ni yng Nghymru.”
Mewn erthygl yn 2011 dywedodd cyfarwyddwr y mudiad, Gareth Clubb, y byddai “digwyddiad niwclear mawr yn Hinkley Point yn cyflwyno’r gwaethaf posib – y gallu i lywodraethu Cymru yn dymchwel, niwed economaidd ac amgylcheddol di-droi-nôl, a chwymp cymdeithasol.”
‘DU yn cael ei thynnu i mewn i dwll du niwclear’
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn wedi beirniadu’r penderfyniad i godi atomfa newydd yn Hinckley Point.
Dywedodd Paul Flynn wrth Golwg360: “Mae’n broblem fawr oherwydd mae rhan o Gymru y tu fewn i ardal atomfa Hinckley Point.
“Mae’n broblem i ddiogelu pobol.”
Dywedodd fod y pris a gafodd ei gytuno’n wreiddiol wedi dyblu erbyn hyn.
“Hefyd, bydd y gost yn ofnadwy. Mae’r pris nawr wedi codi o £50 y kW yr awr i £97 y kW yr awr, sy’n annerbyniol.”
Ar ei flog ar Fawrth 14, dywedodd Paul Flynn: “Mae’r DU yn cael ei thynnu i mewn i dwll du niwclear ffiaidd a allai ddwyn oddi arnon ni am ddegawdau.”
Cyflwynodd gynnig yn Nhŷ’r Cyffredin y diwrnod canlynol yn gofyn am eglurhad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu dod i gytundeb i gyllido atomfeydd yn y DU am hyd at 35 o flynyddoedd.
Yn y cynnig, dadleua y byddai “cytundeb gydag EDF yn rhoi economi’r DU o dan anfantais ddifrifol am ddegawdau”.
Creu swyddi, medd undeb
Ond dywed undeb Unite y bydd codi atomfa newydd yn creu swyddi.
“Bydd codi Hinkley Point C yn creu miloedd o swyddi adeiladu da am y pum mlynedd nesaf, a thua 800 o swyddi er mwyn rhedeg yr orsaf bŵer dros y 60 mlynedd nesaf,” meddai Kevin Coyne o’r undeb.
“Rydym ni’n gobeithio mai dyma’r cyntaf mewn fflyd o bwerdai niwclear a fyddai’n creu swyddi adeiladu am yr ugain mlynedd nesaf. Mae niwclear yn rhan bwysig o bolisi ynni cytbwys, i stopio’r golau rhag diffodd.”
Fis diwethaf cyhoeddodd cwmni Centrica na fyddan nhw’n parhau i fuddsoddi gyda EDF Energy er mwyn codi atomfeydd niwclear newydd.