Bethan Jenkins
Roedd yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins yn ei dagrau brynhawn yma wrth ddarllen datganiad yn esbonio’i habsenoldeb o’r Senedd wythnos ddiwethaf.
Roedd absenoldeb Bethan Jenkins o gynnig oedd yn ei cheryddu am ddwyn anfri ar y Cynulliad am yfed a gyrru, wedi cael ei feirniadu’n chwyrn gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr.
Yn ei datganiad heddiw dywedodd Bethan Jenkins ei bod hi’n ymwybodol y byddai ei habsenoldeb yn ennyn beirniadaeth ond ei bod hi’n barod i wynebu hynny er mwyn cefnogi pensiynwyr cwmni rhannau ceir Visteon.
Cafodd AC Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl pledio’n euog i yfed a gyrru yn Llys Ynadon Caerdydd fis Rhagfyr y llynedd.
Wrth gyfeirio at y digwyddiad dywedodd: “Fe hoffwn i osod ar gofnod yr ymddiheuriadau rwyf eisoes wedi gwneud i’r cyhoedd ac i’r Cynulliad trwy fy natganiadau i’r Pwyllgor Safonau.”
Ers y digwyddiad mae Bethan Jenkins wedi sôn am ei brwydr yn erbyn iselder.