Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies wedi beirniadu’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru am gefnogi streic gan y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yfory.
Bydd y streic yn cael ei chynnal fory ar y diwrnod pan fydd Canghellor Llywodraeth San Steffan, George Osborne yn cyhoeddi ei gyllideb.
Mae’r undeb yn streicio yn dilyn anghydfod gyda Llywodraeth Prydain am golli swyddi, cyflog a phensiynau.
Mae holl fusnes y Cynulliad wedi’i gohirio ddydd Mercher o ganlyniad i’r streic.
Dywedodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru nad ydyn nhw’n fodlon mynd yn groes i’r streic.
Mae cyfarfodydd y Cynulliad wedi cael eu hymestyn heddiw er mwyn cael cwblhau eu holl waith cyn y streic.
‘Angen tyfu i fyny’
Dywedodd Andrew RT Davies fod y cyhoedd yn disgwyl i wleidyddion fod yn y gwaith yn barod i weithio.
“Mae angen i wleidyddion yn y lle hwn dyfu i fyny a phenderfynu a ydyn nhw am fod yn senedd go iawn neu’n ddarostyngedig i’r undebau bob tro mae streic yn cael ei chynnal.
“Hwn yw’r pedwerydd diwrnod o weithredu diwydiannol sydd wedi gorfodi’r lle hwn i gau. Dydy hynny jyst ddim yn ddigon da.
“Galla’ i gydymdeimlo â gweithredoedd undeb PCS maen nhw am eu cyflawni ond yn blwmp ac yn blaen, mae gwleidyddion yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau cyfan.
“Mae’r ffaith fod rhai pleidiau ddim yn troi i fyny i gwblhau eu rôl fel Aelodau Cynulliad yn eithaf gwael ac mae’n lleihau statws y sefydliad hwn.”
‘Sylwadau sarhaus’
Mae’r Cynulliad fel arfer yn cwrdd bedwar diwrnod yr wythnos, a’r prif faterion yn cael eu trafod ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Ond mae cadeirydd y Blaid Lafur, Ann Jones AC wedi beirniadu sylwadau Andrew RT Davies.
“Mae’n warth bod dyn sydd yn taflu ei deganau allan o’r pram yn gyson yn Siambr y Senedd yn awgrymu bod angen i ni dyfu i fyny.
“Mae ei sylwadau yn sarhau pob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran undeb PCS eu bod nhw’n croesawu cefnogaeth y ddwy blaid.