Bydd miloedd o newyddiadurwyr a staff technegol y BBC yn pleidleisio i benderfynu a ydyn nhw am gynnal rhagor o streiciau.
Mae Undeb y Newyddiadurwyr, yr NUJ, a Bectu, yn honni bod gweithwyr o dan bwysau oherwydd llwyth gwaith uwch a thoriadau i swyddi, wedi cyfnod o arbed arian yn y BBC.
Bydd yr undebau yn cynnal pleidlais ymysg eu haelodau, wedi i’r BBC wrthod cynnig i gynnal trafodaethau gyda’r undebau.
Dywedodd Bectu eu bod wedi rhybuddio’r BBC am y bleidlais heddiw, a byddai papurau pleidleisio yn cael eu hanfon i aelodau ar 6 Mawrth.
Dywedodd Gerry Morrissey, Ysgrifennydd Cyffredinol Bectu: “Byddai’n well ganddon ni gynnal trafodaeth gyda rheolwyr y BBC am y niwed sydd wedi ei wneud gan y toriadau yn y flwyddyn ddiwethaf, ond yn lle mae’n rhaid i ni roi fwy o bwysau i ddiogelu miloedd o weithwyr rhag straen o orweithio.”