Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Mae statws credyd llywodraeth Prydain wedi gostwng un gris o’r raddfa uchaf un, AAA, i AA1.

Dywed yr asiantaeth ariannol Moody’s sy’n gyfrifol am y penderfyniad iddyn nhw wneud hyn oherwydd rhagolygon gwan am dwf economaidd a dyledion uchel a chynyddol y llywodraeth.

Mae hyn yn ergyd ddifrifol i hygrededd y Canghellor George Osborne, yn ôl Canghellor yr Wrthblaid Ed Balls, er ei fod yn cyfaddef na fyddai colli’r statws AAA yn gwneud unrhyw wahaniaeth economaidd ynddo’i hun.

“Yr hyn mae’r asiantaethau statws credyd yn ei wneud yw adlewyrchu realiti economi nad yw’n tyfu, dyled sy’n mynd yn fwy, a llywodraeth sy’n bwrw ymlaen yn ddi-hid gyda chynllun nad yw’n gweithio,” meddai Ed Balls.

“Agwedd y llywodraeth yw ‘dyw’r ffisig ddim yn gweithio, felly gadewch inni gynyddu’r dôs’ – sy’n economeg gwallgof.”

Ond dywed George Osborne nad yw’r newid statws yn golygu y dylai’r Llywodraeth newid cwrs.

“Mae’r penderfyniad yn ein hatgoffa o’r problemau dyledion sy’n wynebu’n gwlad – ac yn rhybudd clir i unrhyw un sy’n credu y gallwn ddianc rhag mynd i’r afael â’r problemau hynny,” meddai.

“Mae’n ein gwneud ni’n fwy penderfynol fyth o gyflawni’n cynllun am adferiad economaidd. Fe fyddwn ni’n parhau gyda chynllun sydd wedi torri chwarter ar y ddyled a rhoi cyfraddau llog is nag erioed a mwy nag erioed o swyddi.”