Un o'r wigiau 'mohicanaidd' sydd ar werth yn Abertawe
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Abertawe sy’n mynd i’r gêm fawr yn Wembley yfory wedi cael eu rhybuddio y gallai wigiau ‘mohicanaidd’ sydd ar werth yn y ddinas fod yn beryglus.

Yn ôl swyddogion safonau masnach Cyngor Abertawe gallai’r wigiau (fel yn y llun) fynd ar dân yn hawdd. Byddai unrhyw un sy’n eu gwisgo mewn perygl o gael eu hanafu os bydden nhw’n agos i fflam noeth.

Mae profion wedi’u cynnal ar ychydig o samplau ac roeddent yn llosgi am gyfnod hirach na’r ddau eiliad a nodir gan ganllawiau diogelwch Safonau Prydeinig.

Meddai David Picken, Swyddog Safonau Masnach Cyngor Abertawe, “Rydym am i bawb sy’n teithio i Lundain ddydd Sadwrn gael amser gwych a gwisgo lliwiau’r Elyrch â balchder.

“Gall cefnogwyr brynu llawer o eitemau difyr i ddangos eu cefnogaeth, fel wigiau a sgarffiau – ond mae rhai wigiau sy’n methu’n ddifrifol â bodloni’r safonau diogelwch presennol.

“Mae gennym neges syml. Os ydych wedi prynu un o’r wigiau hyn ac yn bwriadu ei wisgo i’r gêm neu unrhyw le arall, dylech fod yn gyfrifol ac osgoi cysylltiad â sigarennau neu fflamau matsis a thanwyr.”

Bydd Swyddogion Safonau Masnach ar ddyletswydd yn yr orsaf drenau a’r orsaf fysus ar fore’r gêm ac yn cadw llygad am nwyddau a allai fod yn beryglus sydd ar werth i gefnogwyr.