SMae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn rhoi prawf ymarferol i ymennydd eisteddfodwyr eleni.
Wrth gael pobol i wisgo prism-goggles, cyn herio nhw i daflu bagiau ffa i focs, maen nhw’n gweld pa mor gyflym a pha mor effeithlon mae’r ymennydd yn addasu.
“Pan ti’n gweld rhywbeth, mae ‘na neges yn cael ei yrru i dy ymennydd di, felly unwaith ti’n arfer gwneud rhywbeth mae dy ymennydd yn dod i arfer gyda’r weithred,” meddai Danielle Thomas, sydd newydd orffen ei hail flwyddyn yn astudio Seicoleg yn y Brifysgol.
“Beth mae’r prism goggles yn gwneud ydi newid beth wyt ti’n weld felly mae’n rhaid i dy ymennydd di ddod i arfer gyda hynny.”
Unwaith mae rhywun yn cael un o’r bagiau ffa yn y bocs, mae’r ymennydd yn dod i arfer a’i leoliad, meddai Danielle Thomas.
“Mae dy ymennydd wedyn yn newid beth mae o fod i wneud ac yn ail-strwythuro er mwyn dod i arfer gyda’r dasg.”
“Mae hwn mwy i wneud gyda seicoleg fiolegol a cognitive, ac yn ystyried pa nerfau sy’n mynd i mewn i’r ymennydd.”
Yn ôl Danielle Thomas, maen nhw’n gobeithio dangos i bobol fod astudio Seicoleg yn trafod nifer fawr o bethau.