Mae’r data diweddaraf ar gyfer cyfraddau Covid-19 yn dangos mai Blaenau Gwent yw’r awdurdod lleol yng Nghymru â’r cynnydd wythnosol mwyaf.
Dangosa’r ystadegau bod y gyfradd wedi codi i 531.3 achos i bob 100,000 o bobol ym Mlaenau Gwent yn y saith niwrnod hyd at 11 Medi, o gymharu â’r 419.9 yn y saith niwrnod blaenorol.
Er hynny, mae’r cyfraddau ar eu huchaf yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda 698.8 achos i bob 100,000 person.
Mae’r cyfraddau ar eu hisaf yn Sir Fynwy, Sir Benfro a Chaerdydd.
Bu gostyngiad yn y cyfraddau wythnosol yn hanner awdurdodau Cymru (50%), a chynnydd yn yr hanner arall.
Dros y Deyrnas Unedig, yr Alban sydd gan y cyfraddau uchaf, a thros y Deyrnas Unedig gostyngodd y cyfraddau wythnosol yn 73% o’r awdurdodau lleol o gymharu â’r wythnos flaenorol.
Cyfraddau lleol
Y cyfraddau ar gyfer y saith niwrnod hyd at 11 Medi, nifer yr achosion newydd mewn cromfachau, a’r gyfradd ar gyfer y saith niwrnod yn gorffen 4 Medi:
Castell-nedd Port Talbot: 698.8 (1,009 achos) cynnydd o 668.3 yr wythnos flaenorol.
Sir Gaerfyrddin: 698.2 (1,327) cynnydd o 638.7
Merthyr Tudful: 673.6 (407) gostyngiad o 804.3
Caerffili: 631.7 (1,148) cynnydd o 557.4
Abertawe: 599.8 (1,479) gostyngiad o 702.1
Rhondda Cynon Taf: 537.1 (1,299) gostyngiad o 589.6
Blaenau Gwent: 531.3 (372) cynnydd o 419.9
Conwy: 519.5 (614) gostyngiad o 540.7
Bro Morgannwg: 513.7 (695) cynnydd o 473.8
Sir Ddinbych: 509 (492) gostyngiad o 528.6
Torfaen: 457.7 (434) cynnydd o 362.7
Gwynedd: 442.6 (554) gostyngiad o 445.8
Ceredigion: 430.8 (314) cynnydd o 414.3
Ynys Môn: 424.5 (299) cynnydd o 391.8
Pen-y-bont ar Ogwr: 416.8 (615) gostyngiad o 429.7
Powys: 414.2 (551) cynnydd o 389.4
Casnewydd: 412.9 (646) gostyngiad o 461.5
Sir y Fflint: 389.6 (611) cynnydd o 388.9
Wrecsam: 382.2 (520) cynnydd o 340.3
Caerdydd: 375.4 (1,386) gostyngiad o 430.1
Sir Benfro: 302.2 (383) gostyngiad o 437.1
Sir Fynwy: 209.1 (199) gostyngiad o 304.7