Mae dyn a gafodd ei ddisgrifio gan erlynwyr yn yr Unol Daleithiau fel “Twm Sion Cati arennau dynol”, wedi’i ryddhau o’r carchar, wedi iddo fod y cynta’ i gael ei garcharu am ymelwa o werthu organau dynol.

Fydd Levy Izhak Rosenbaum, dinesydd Israel, ddim yn cael ei anfon adref gan yr awdurdodau, wedi iddyn nhw ddisgrifio ei droseddau fel “croesdoriad rhwng cyfraith a moesoldeb”.

Fe gafodd Levy Rosenbaum, 63 oed, ei arestio yn 2009. Roedd wedi bod yn byw yn yr Unol Daleithiau yn anghyfreithlon.

Yn 2011, fe blediodd yn euog i werthu organau dynol yn anghyfreithlon, ac mae wedi treulio dros ddwy flynedd yng ngharchar.

Fe gafodd ei ryddhau o garchar Fort Dix yn New Jersey, ac mae wedi dychwelyd i’w gartre’ yn ardal Brooklyn yn Efrog Newydd.