Neil Hamilton
Mae arweinydd plaid UKIP yn y Cynulliad wedi dweud ei fod “wedi edrych ymlaen” at glywed tystiolaeth cynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith mewn pwyllgor yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Gymdeithas heddiw, wedi i ddau aelod gael eu rhwystro rhag cyflwyno tystiolaeth oherwydd iddyn nhw ddweud ymlaen llaw na fydden nhw’n ateb unrhyw gwestiynau gan aelod UKIP, mae Neil Hamilton yn dweud ei fod wedi edrych ymlaen at “drafodaeth adeiladol”.
“… Darllenaf eu tystiolaeth ysgrifenedig â chydymdeimlad,” meddai Neil Hamilton, sy’n Aelod Cynulliad tros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
“Mae pob aelod o’r Cynulliad yn gydradd fel cynrychiolwyr etholedig pobol Cymru ac ni all eithafwyr fod yn deyrn ar y Cynulliad. Pleidleisiodd 13% o bobol am UKIP mis Mai diwethaf a phleidleisiodd 52% o bobol am Brexit ym Mehefin.
“Dydyn nhw ddim yn helpu’r iaith Gymraeg trwy eu harddangosiad plentynnaidd o anwybodaeth a rhagfarn.
“Dw i’n bersonol yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o wneud Cymru’n genedl ddwyieithog a dwi’n gobeithio gwneith Cymdeithas yr Iaith dyfu fyny yn fuan.”