Mae cynllun arwyddion ffordd yn y Gaeltacht – yr ardal Wyddeleg – yn ninas Belfast yn cael ei ddisgrifio fel cam mawr ymlaen.
Mae arbenigwyr yn dweud y bydd cymryd dull cyffredinol tuag at arwyddion yn lleihau’r ôl-groniad ac yn cydnabod pwysigrwydd ieithyddol unigryw ardal y Gaeltacht.
Mae disgwyl i’r cynllun arbed dros £185,000 i Gyngor Dinas Belfast ar yr un pryd.
Y cynnig
Mae mudiadau Conradh na Gaeilge a Fís an Phobail, Cynllun Iaith Wyddeleg Gorllewin Belffast, yn cefnogi polisi’r Cyngor o godi arwyddion ffordd dwyieithog fesul dipyn dros 309 o strydoedd ardal y Gaeltacht sydd heb arwyddion dwyieithog ar hyn o bryd.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno fis Chwefror eleni er mwyn mynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol mewn ceisiadau ar gyfer arwyddion dwyieithog o fewn ardal Cyngor y Ddinas.
Cafodd adroddiad ei gyflwyno i un o adrannau’r Cyngor heddiw (dydd Gwener, Hydref 20), ac mae’n amlinellu’r cynnig.
Cafodd yr adroddiad a’r cynigion eu cytuno gan y pwyllgor, a byddan nhw nawr yn cael sylw pellach, a chymeradwyaeth o bosib, yng nghyfarfod llawn nesa’r Cyngor.
Y broses
Bydd y cynnig yn gweld arwyddion ar 309 o strydoedd yn rhan isa’r Gaeltacht yn y ddinas yn mynd trwy’r broses ar yr un pryd.
Bydd pob aelwyd yn derbyn llythyr, a gall strydoedd cyfan gynnal arolwg barn drwy hysbysu’r Cyngor.
Bydd yr adroddiad yn arbed cryn amser ac arian i’r Cyngor, ac yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad, gan arbed dros £185,000 i’r Cyngor yn erbyn dull fesul stryd ar gyfer y 309 o strydoedd sy’n weddill.
Ar hyn o bryd, mae oddeutu 500 o geisiadau ar gyfer arwyddion dwyieithog yn system y Cyngor yn aros i gael eu prosesu, ac mae’r Cyngor yn llwyddo i brosesu tua chwe chais bob mis.
Yr iaith yn ffynnu
Er bod yr iaith Wyddeleg yn ffynnu yng ngorllewin Belfast, mae Fís an Phobail yn dal i boeni am weladwyedd yr iaith.
“Yn ôl ffigurau diweddara’r Cyfrifiad, mae gan Orllewin Belfast un o’r crynodiadau uchaf o siaradwyr Gwyddeleg yn unrhyw le yn Iwerddon,” meddai Ciarán Mac Giolla Bhéin, cydlynydd Fís an Phobail, Cynllun Iaith Wyddeleg Gorllewin Belfast.
“Y dystiolaeth ar gyfer hyn yw twf anhygoel ein system addysg Wyddeleg a’r sector cymunedol bywiog sydd wedi datblygu, yn enwedig dros yr ugain mlynedd diwethaf.
“Fodd bynnag, mae gweladwyedd yr iaith wedi’i gyfyngu’n ddifrifol i’r hyn mae’r gymuned ei hun wedi’i adeiladu.
“Rydym yn rhoi croeso twymgalon i fabwysiadu polisi arwyddion llawer mwy blaengar gan Gyngor Dinas Belfast yn ddiweddar, ac yn eu cymell nhw eto am y cynnig i gyflymu arwyddion dwyieithog mewn bloc ar draws ardal y Gaeltacht.
“Bydd hyn yn mynd law yn llaw ag adfywiad deinamig yn yr ardal sydd wedi’i arwain gan y gymuned, yn atgyfnerthu agweddau positif mewn perthynas â’r iaith, ac yn dangos bod gan yr ardal hon gymuned ddwyieithog fywiog.
“Bydd hefyd yn helpu i glirio’r ôl-groniad mewn ceisiadau am arwyddion, ac yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw ledled y ddinas am arwyddion stryd dwyieithog.
“Rydyn ni am ddiolch i gynghorwyr a swyddogion yng Nghyngor y Ddinas am gyflwyno’r fenter drawsnewidiol hon.”
Cynyddu gweladwyedd
Yn ôl Cuisle Nic Liam, Cydlynydd Hawliau Ieithyddol gyda Conradh na Gaeilge, mae arwyddion dwyieithog yn fesur sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer sicrhau mwy o weladwyedd i ieithoedd.
“Mae’r cynnydd hwnnw mewn gweladwyedd yn arwain at fwy o normaleiddio’r iaith, ac yn ei dro at fwy o oddefgarwch o ran dwyieithrwydd yn gyffredinol,” meddai.
“O ystyried bod dros 90% o’n henwau lleoedd yn deillio’n uniongyrchol o’r Wyddeleg, mae hwn yn bolisi adfer iaith fydd yn gweld yr iaith Wyddeleg yn dychwelyd i ardaloedd a strydoedd lle’r oedd hi’n arfer bod wedi’i gwahardd.
“Cafodd y polisi bloc hwn ei gyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r amserau aros ac ôl-groniad gwarthus, gyda thrigolion o bosib yn aros hyd at ddeg i ddeuddeg o flynyddoedd mewn rhes o 500 o strydoedd sy’n aros am arwyddion dwyieithog.
“Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd hyn yn arbed oddeutu £185,000 i’r Cyngor, yn hytrach na gwneud hyn fesul stryd, tra bydd yn clirio’r ôl-groniad o geisiadau ac yn cyflymu’r broses gyfan ar yr un pryd.
“Edrychwn ymlaen at archwilio sut orau i ail-greu’r cynnig hwn mewn ardaloedd eraill sydd â chrynodiadau sylweddol o siaradwyr iaith Wyddeleg yn Belfast ac yn ardaloedd eraill y Cyngor dros y misoedd i ddod.”00