Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai nhw fydd y cyntaf yn y gorfforaeth yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu technoleg darlledu newydd.
Ar hyn o bryd, technoleg Rhyngwyneb Digidol Cyfresol (SDI) sy’n cael ei ddefnyddio, ond pan fydd y darlledwyr yn symud i’w swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd mi fydd technoleg protocol rhyngrwyd (IP) yn cael ei gyflwyno.
Mae technoleg IP yn newid y ffordd mae data a signalau yn cael eu cludo, ac yn wahanol i dechnoleg SDI gall data a signalau symud i bob cyfeiriad.
“Ar flaen y gad”
“Mae IP yn fuddsoddiad yn nyfodol creadigol BBC Cymru – a bydd yn ein rhoi ni ar flaen y gad o ran datblygiadau technoleg ddarlledu yn Ewrop,” meddai Prif Swyddog Gweithredol BBC Cymru, Gareth Powell.
“Mae modd graddio’r dechnoleg newydd hefyd, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu addasu’n gyflym i ofynion y dyfodol am led band uwch neu well eglurder fideo.”
Bydd y BBC yn gweithio gyda chwmni Grass Valley a’r cwmni technoleg Cisco o’r Unol Daleithiau, er mwyn cyflwyno’r dechnoleg IP newydd.