Mae’r gymdeithas Brydeinig sy’n mesur cryndodau yn y ddaear, wedi cofnodi daeargryn yn Nhrecelyn yn sir Gaerffili.

Yn ôl gwefan y Gymdeithas Ddaearegol Brydeinig, fe fu daeargryn yn mesur 1.4 tua chwarter i bedwar fore heddiw.

Roedd y cryndod tua 2km o dan wyneb y ddaear, yn ôl y cofnodion.