Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu meddalwedd newydd ar y cyd â chwmni cyfrifiadurol IBM allai gael ei ddefnyddio ar ffonau clyfar.
Bellach mae gan sawl math o ffonau, gan gynnwys rhai Apple a Microsoft, raglenni fel Siri a Cortana, lle mae defnyddwyr yn gallu gofyn cwestiwn i’w ffôn ac mae’r ffôn hwnnw’n ymateb ‘ar lafar’ ar ôl chwilio am yr ateb ar y we.
Gobaith y gwyddonwyr yw bod eu cynorthwyydd digidol newydd nhw yn mynd gam ymhellach, gan ymateb mewn ffordd fwy deallus yn ogystal â gallu cael ei ddefnyddio fel rhan o rwydwaith.
Yn ôl y tîm sydd wedi datblygu’r cynorthwyydd digidol newydd, mae’n bosib y bydd yn gallu cael ei ddefnyddio i helpu pobl mewn pob math o sefyllfaoedd, o argyfyngau i wyliau.
Canfod gwybodaeth leol
Mae’r cynorthwyydd digidol wedi cae ei enwi’n SHERLOCK (Simple Human Experiment Regarding Locally Observed Collective Knowledge) gan y gwyddonwyr sydd wedi ei ddatblygu.
Byddai SHERLOCK yn defnyddio gwybodaeth mae perchennog y ffôn, a pherchnogion teclynnau eraill cyfagos, er mwyn adeiladu ‘sylfaen wybodaeth leol’ a gwella’r math o wybodaeth mae’n medru ei roi.
Yn ôl y gwyddonwyr, fe allai pobl oedd â’r feddalwedd ar eu ffôn neu lechen mewn cartref ‘clyfar’ ddweud wrtho eu bod yn “teimlo’n oer”, ac fe fyddai’r rhaglen yn gallu addasu’r gwres neu awgrymu cau ffenestri.
Byddai hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio i gasglu a phrosesu ‘gwybodaeth dorfol’ megis mewn gŵyl, ble y gallai roi gwybod ble mae’r mannau bwyd prysuraf neu dawelaf, neu mewn argyfwng ble gallai helpu timau meddygol ddod o hyd i bobl y mae angen cymorth arnynt, ar sail gwybodaeth llygad-dystion.
‘Cydweithio rhwng peiriannau a phobol’
Mae’r meddalwedd wedi cymryd degawd i’w ddatblygu, ac mae disgwyl rhagor o brofion cyn iddo gael ei wneud ar gael i’r cyhoedd.
Ond yn ôl yr Athro Alun Preece o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, a weithiodd ar y prosiect, mae’n gam ymlaen yn y berthynas rhwng pobl a’i teclynnau.
“Mae pobl yn hoffi cyfathrebu â chyfrifiaduron drwy ddefnyddio ieithoedd naturiol fel Saesneg,” meddai.
“Mae cyfrifiaduron yn cael trafferth deall a phrosesu iaith o’r fath. Mae SHERLOCK yn defnyddio ‘iaith naturiol wedi’i rheoli’ o’r enw ‘Saesneg a Reolir’ a ddatblygwyd gan IBM.
“Mae Prifysgol Caerdydd wedi cydweithio ag IBM i ddatblygu ffordd o alluogi pobl a pheiriannau i gael sgyrsiau syml drwy ddefnyddio iaith naturiol a Saesneg a Reolir.
“Felly, gellir defnyddio SHERLOCK i helpu pobl i gyfathrebu’n fwy effeithiol â systemau cyfrifiadurol.
“Rydym yn credu ein bod yn unigryw wrth roi technoleg Iaith Naturiol wedi’i Rheoli yn llythrennol yn nwylo pobl – a gydag ap Oriawr Apple, ar eu harddyrnau – gyda’r nod o alluogi gwell dealltwriaeth a chydweithredu rhwng peiriannau a phobl.”