Mae diweddariad newydd meddalwedd Microsoft, Windows 10, ar gael yn Gymraeg.
Bydd y cwmni meddalwedd cyfrifiadurol yn diweddaru Windows i’w holl ddefnyddwyr dros y flwyddyn nesaf yn dilyn lansio’r diweddariad ar Orffennaf 31.
Yn barod mae HacIaith.com, sef cymuned o bobl broffesiynol ac amateur sy’n trin a thrafod sut mae technoleg yn berthnasol i’r Gymraeg, wedi cyhoeddi erthygl yn esbonio i bobl sut i roi’r meddalwedd Cymraeg ar eu cyfrifiaduron.
Meddai Rhoslyn Prys sydd wedi ysgrifennu’r darn i HacIaith: “Os ydych ar Windows 7 ac 8.1 ac wedi diweddaru’n gyson bydd (Windows 10) ar gael i chi drwy gydol y flwyddyn nesaf.
Aeth Rhoslyn Prys ymlaen i esbonio byddai defnyddwyr Microsoft yn derbyn negeseuon bod y diweddariad ar gael ac er bydd rhai defnyddwyr yn derbyn blwyddyn o Microsoft 10 am ddim, bydd eraill yn gorfod talu £100 i’w ddefnyddio.
Ychwanegodd: “Diolch i Microsoft am gefnogi’r Gymraeg mor hael, mae yna nifer o raglenni eraill, er enghraifft, OneDrive, yn ogystal ag Office ar gael yn Gymraeg.”
Am fwy o fanylion ewch i wefan http://haciaith.com/2015/07/31/windows-10/