Mae arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro wedi galw’r ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg yn “brat”.
Daw hyn wedi iddi ddweud ei bod hi’n ofidus am ladd Brasiliaid brodorol yn yr Amazon.
Mae Jair Bolsonaro wedi cwestiynu’r sylw mae’r ferch 16 mlwydd oed yn ei gael gan y cyfryngau.
“Dywedodd Greta fod yr Indiaid yna wedi marw gan eu bod yn amddiffyn yr Amazon,” meddai Jair Bolsonaro.
“Mae’r nodedig fod y cyfryngau yn rhoi gymaint o sylw i brat fel hi.”