Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi clywed gan undeb ffermio fod mwy o wartheg wedi eu difa yn y pum mlynedd diwethaf na phoblogaeth moch daear y wlad.

Mewn cyfarfod â’r Prif Weinidog, dywedodd Arlywydd Undeb Ffermwyr Cymru, Glyn Roberts fod angen adolygiad annibynnol i mewn i TB mewn gwartheg ar sail tystiolaeth.

Bwriad yr adolygiad fyddai asesu addasrwydd y mesurau rheoli bywyd gwyllt presennol a gwneud argymhellion ar bolisïau difa moch daear ar gyfer y dyfodol.

“Mae ffermwyr angen gobaith, gobaith y bydd modd delio â’r afiechyd ac y bydd yn cael ei ddileu o ein tirwedd,” meddai Glyn Roberts.

“Rydym wedi gofyn i’r Prif Weinidog ariannu dull arloesol o weithredu, gan gymryd yr ymarferion gorau o lefydd eraill yn ein cymdeithas sy’n wynebu sialensiau.”

Ymateb y Gweinidog

Mi wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gynnal sesiwn sgriwtini efo Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ddoe (Tachwedd 20).

Yn y sesiwn dywedodd Lesley Griffiths: “Rydw i wedi gwrando ar bryderon a godwyd yn y diwydiant yn ymwneud ag agweddau ar ladd anifeiliaid ar ffermydd.

“Rydym yn cydweithio â’r diwydiant a’r proffesiwn milfeddygol i ymchwilio i opsiynau i

leihau nifer y gwartheg sydd â TB sydd angen eu lladd ar ffermydd.”