Huw Edwards fydd yn cyflwyno prif raglen etholiadol y BBC eleni.
Fe fydd yn olynu David Dimbleby, sydd wedi ymddeol ar ôl degawdau wrth y llyw.
Mae’r Cymro Cymraeg o Langennech yn cael ei ystyried yn bâr diogel o ddwylo gan wylwyr a’r Gorfforaeth, ac mae’n dweud ei fod yn awyddus i ddefnyddio’i brofiad helaeth er mwyn rhoi eglurder mewn “byd ansicr”.
Yn gohebu ar y noson ac yn yr wythnosau cyn yr etholiad fydd Naga Munchetty, Andrew Marr, Laura Kuenssberg, yr Athro John Curtice, Sarah Smith, Kirsty Wark, Reeta Chakrabarti, Andrew Neil a Tina Daheley, gyda Jeremy Vine yn gyfrifol am y ‘swingometer’ enwog unwaith eto.
‘Tywys y gwylwyr’
“Ein nod yn adran newyddion y BBC yw cynnig y gwasanaeth gorau posib i bleidleiswyr mewn byd ansicr iawn,” meddai Huw Edwards.
“Fy ngwaith i – yn ystod yr ymgyrch ac ar y noson – fydd tywys gwylwyr drwy’r etholiad pwysicaf ers degawdau.
“Gobeithio y galla i roi fy 35 mlynedd o brofiad ar waith a chynnig gwasanaeth i wylwyr y gallan nhw ymddiried ynddo fe.”
‘Y cyflwynydd perffaith’
“Huw yw’r cyflwynydd perffaith i’w gael wrth y llyw fel tywysydd awdurdodol y gallwn ymddiried ynddo drwy gydol noson yr etholiad,” meddai Fran Unsworth, cyfarwyddwr newyddion y BBC.
“Mae nod y BBC yn syml: rydym am roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar y gynulleidfa i’w helpu nhw i benderfynu sut i fwrw eu pleidlais.”