Mae Aelod Seneddol Aberconwy yn darogan y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn “hynod o lwyddiannus” ac yn cael ei “chofio am flynyddoedd”.

Bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn Llanrwst rhwng Awst 3 a 10, ac mae cynrychiolydd yr ardal yn San Steffan, Guto Bebb, wedi hynny’n beth “ffantastig”.

“Dw i’n wirioneddol falch bod yr Eisteddfod yn dod i Ddyffryn Conwy ac i Lanrwst,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna frwdfrydedd gwirioneddol yn y dyffryn ac ar draws Sir Conwy.

“A dw i’n meddwl y bydd yna Eisteddfod hynod o lwyddiannus oherwydd mae’r gwaith sydd wedi cael ei wneud, a’r ffordd mae cymunedau wedi tynnu at ei gilydd yn argoeli’n ardderchog ar gyfer gŵyl y bydd pobol yn ei gofio am flynyddoedd.”

Is-etholiad

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal wythnos yn unig yn dilyn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, lle gollodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Chris Davies, ei sedd.

Roedd arolygan barn wedi darogan y canlyniad hynny, ond yn y pendraw mi enillodd y Torïaid ganran uwch na’r disgwyl o’r bleidlais.

Mae rhai’n credu mai’r Boris bounce – twf mewn cefnogaeth i’r Ceidwadwyr ers ethol Boris Johnson yn Brif Weinidog – sy’n gyfrifol am hynny, ac mae Guto Bebb yn cytuno i ryw raddau.

Ond mae’r Aelod Seneddol hefyd yn ddrwgdybus o’r ddamcaniaeth honno, ac mae’n siomedig bod y sedd wedi cael ei cholli.

Y ‘Boris bounce’

“I roi hyn yn ei gyd-destun, dw i ddim yn credu bod llawer o amheuaeth bod y canran sy’n dweud eu bod am bleidleisio dros y Ceidwadwyr wedi codi, rhyw 5% i 6%, ers ethol Boris Johnson,” meddai Guto Bebb.

“Ond mae hynny’n golygu ein bod ar 30%, lle ar ôl i Theresa May gael ei hethol roeddwn ar 44%. Mae eisiau rhoi’r honiad yma o bounce yn ei gyd-destun.

“Mae’n fwy o dead cat bounce [hynny yw, gwelliant byr dymor] na bounce sy’n golygu gallai’r Ceidwadwyr ennill etholiad.

“Yn hynny o beth, er gwaetha’r ffaith bod y canlyniad ychydig yn well oherwydd bod yna [rhyw fath] o Boris bounce, mae o dal yn golygu bod sedd â mwyafrif o 8,000 wedi cael ei golli.”