Mae Boris Johnson wedi cael ergyd ar ôl i’r Ceidwadwyr golli sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn yr is-etholiad ddoe (dydd Iau, Awst 1) gan adael y Prif Weinidog gyda mwyafrif gweithredol o ddim ond un.
Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi ennill y sedd gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds yn ei chipio gan y Ceidwadwr, Chris Davies.
Roedd dros 10,000 o’i etholwyr wedi arwyddo deiseb i gael gwared arno wedi iddo gyfaddef ffugio treuliau ond cafodd ei ddewis eto i sefyll yn yr is-etholiad.
Fe lwyddodd Jane Dodds i ennill 43.5% of o’r holl bleidleisiau, gyda Chris Davies yn cael 39%. Roedd Plaid Brexit wedi cipio 10% o’r bleidlais a Llafur dim ond 5%. Roedd Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi dod i gytundeb i beidio sefyll yn yr isetholiad er mwyn osgoi rhannu’r bleidlais.
Fe fydd y canlyniad yn ergyd arall i her Boris Johnson i sicrhau cymeradwyaeth i Brexit yn y Senedd ac fe allai gynyddu’r tebygolrwydd o gynnal etholiad cyffredinol brys.
Wrth i Jane Dodds ddathlu ei buddugoliaeth, fe heriodd Boris Johnson i ddiystyru Brexit heb gytundeb.
“Fy ngweithred gyntaf fel eich Aelod Seneddol pan fydda’i yn cyrraedd San Steffan fydd dod o hyd i Mr Boris Johnson lle bynnag mae’n cuddio a dweud yn groch ‘stopiwch chwarae gyda dyfodol ein cymunedau a rhoi’r gorau i Brexit heb gytundeb nawr’.”