Mae Aelod Seneddol Llafur, ac uwch aelod o’r cabinet cysgodol, wedi ennill £30,000 mewn iawndal yn yr Uchel Lys yn erbyn papur The Sun am enllib.

Roedd y papur wedi honni fod yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cysgodol, Richard Burgon, wedi perfformio gyda grŵp cerddoriaeth drwm oedd yn defnyddio delweddau Natsïaidd.

Yn ôl Richard Burgon, roedd erthygl y papur ym mis Ebrill 2017, oedd yn datgan ei fod wedi ymuno a’r grŵp yn Leeds sy’n “ymhyfrydu mewn symbolau Natsiaidd” yn “hynod enllibus, ffug ac annheg”.

Roedd y grŵp o’r enw Dream Troll, yn ymddangos fel ei fod wedi defnyddio’r un delweddau oedd i’w weld ar logo sefydliad enwog y Natsïaid – yr ‘SS’, yn ôl The Sun.

Er hynny, gwneud jôc o albwm 1975 Black Sabbath – We Sold Our Soul For Rock ‘n’ Roll oedd y grŵp yn ôl Richard Burgon.

Dadleuodd The Sun a’i golygydd gwleidyddol, Tom Newton Dunn, fod y ddelwedd yn “atgof cryf o eiconograffig Natsiaidd” a bod Richard Burgon wedi “dangos camfarn ofnadwy, ac wedi gwneud gwarth o’i hun.”

Ond wrth roi dyfarniad yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw (ddydd Mercher, Chwefror 6) cyhoeddodd y barnwr cyfiawnder Dingemans ei fod wedi dyfarnu o blaid Richard Burgon gan roi £ 30,000 iddo.