Bydd pedwar o Gymru a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu coffáu gan bortreadau tywod ar Sul y Cofio.
Fe fyddan nhw’n rhan o gomisiwn y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle, Pages of the Sea.
Ac mae gwahoddiad i’r cyhoedd i ymgynnull ar un o 30 o draethau ar lanw isel, sy’n cynnwys Abertawe, Bae Colwyn, Freshwater West ac Ynyslas… cyn y bydd y portreadu yn cael eu golchi ymaith wrth i’r llanw ddod i mewn.
Wynebau Cymru
Dyma’r portreadau o’r colledion fydd yn cael eu creu ar draethau Cymru:
Abertawe, 11.30yb tan 4yp – Dorothy Watson, 19 oed a laddwyd mewn ffrwydrad yn y NEF (National Explosives Factory) ym Mhen-bre ym mis Gorffennaf 1917.
Bae Colwyn, 8yb tan 10yb – Hedd Wyn o Drawsfynydd a laddwyd yn ystod Brwydr Passchendaele ar Orffennaf 31, 1917. Yn ddiarwybod iddo, roedd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno yn Penbedw. Pan alwyd ar ‘Fleur-de-lis’ i godi yn ystod y seremoni, ni chododd neb, a gorchuddiwyd y gadair wag gyda gorchudd du.
Freshwater West, 12yp tan 3yp – yr Uwchgapten Charles Alan Smith Morris, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei anafu tra’n brywdro ar y Ffrynt Orllewinol yn La Courcette.
Ynyslas, Ceredigion, 12.30yb tan 3.30yp – roedd Richard Davies o’r Borth yn briod â Mary Davies, yn dad i chwech o blant ac yn gweithio fel labrwr yn ogystal â bod yn Llyngheswr Brenhinol wrth gefn. Cafodd ei alw’n ôl ar ddechrau’r rhyfel a’i benodi i’r HM Evangel. Ym Mawrth 1917, roedd ar batrôl oddi ar Aberdaugleddau pan drawodd ffrwydryn a osodwyd gan y llong danfor Almaenig UC-48.