Mae protestwyr wedi clymu cannoedd o deis ar ffens o amgylch adeilad y llywodraeth yn Cosofo, er mwyn gwrthdystio yn erbyn codiad cyflog i brif weinidog y wlad.

Roedd Ramush Haradinaj wedi dweud mewn cyfweliad teledu ei fod angen yr arian ychwanegol er mwyn prynu teis a chrysau newydd.

Yr wythnos gynt, roedd wedi cyhoeddi y byddai’n dyblu ei gyflog ei hun i 2,950 ewro y mis, cyn treth.

Y cyflog cyfartalog yn Cosofo ydi 354 ewro y mis.

Mae Cosofo yn un o wledydd tlotaf Ewrop.