Mae Huw John Edwards yn berchennog cwmni teacis a thafarn, ymysg nifer o bethau eraill, yn ardal Dyffryn Nantlle – a dyna pam, meddai, y bydd yn ymgeisio am hen sedd cyn-Arweinydd Cyngor Gwynedd yn etholiadau lleol Mai 4.
Er bod y byd gwleidyddol ychydig yn llai cyfarwydd iddo, mae ‘Huw Tacsi’ yn benderfynol ei fod am gynrychioli Pen-y-groes, pentref sydd, meddai wedi’i esgeuluso.
“O’n i’n teimlo does dim digon yn cael ei wneud ym Mhen-y-groes, dyna pam wnes i sefyll,” meddai wrth golwg360. “Dydan ni ddim wedi gweld cynghorydd ers 2012. Does neb wedi bod rownd i ofyn a oes unrhyw un angen help…
“Dw i eisiau cadw gwaith ym Mhen-y-groes a thrio cael gweithwyr yno, tacluso llefydd i fyny. Mae cymaint o lefydd ym Mhen-y-groes sydd angen ei fixio i fyny, a nbeb yn gwneud dim byd amdanyn nhw.”
“Neb yna i helpu”
Er bod Pen-y-groes yn “lle Plaid Cymru cryf” ac er iddo sefyll dros y blaid honno yn y gorffennol, meddai, mae Huw Tacsi yn siomedig â’i gwaith yn y ward ac wedi penderfynu sefyll dros blaid Llais Gwynedd yn yr etholiad yma.
“Dydyn nhw ddim wedi trio llawer ym Mhen-y-groes. Dw i’n teimlo fel bod nhw wedi gadael Pen-y-groes i lawr. Mae busnesau bach yna sydd angen help ond does neb yna i helpu nhw.”
A dyna pam fod taflen Huw Tacsi yn nodi fod helpu pobol ifanc sydd ddim am fynd i’r coleg, a rhai sydd weithiau’n cael eu gorfodi i fynd i brifysgol i fod yn athrawon, yn un o’i brif amcanion.
Newid ei enw
Oherwydd bod y rhan fwyaf o bobol yn adnabod Huw John Edwards wrth ei lysenw ‘Huw Tacsi’, mae’r ymgeisydd wedi penderfynu gosod ‘Huw Taxi’ fel yr enw ar y papur pleidleisio.
“’Huw Tacsi’ dw i wedi bod erioed,” meddai. “Felly mae pawb yn fy nabod i ym Mhen-y-groes. Does neb yn nabod fi fel Huw Edwards!”