Helen Kalliope Smith
Mae Helen Kalliope Smith yn sefyll dros Blaid Cymru yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd heddiw, ac yn dwlu ar gathod.
Yn gyn-gyfieithydd sydd wedi ymddeol a symud o Benygroes, Gwynedd yn ôl i gartref ei phlentyndod yn y brifddinas, mae hi’n gallu siarad chwe iaith – ond does yna ddim Cymraeg rhyngddi hi a’i chathod.
“Groeg dw i’n siarad gyda’r cathod – Groegwyr bach ydyn nhw! Maen nhw’n deall yr iaith. Dw i weithiau yn mewian arnyn nhw ond Groeg dw i’n siarad â nhw o ddydd i ddydd,” meddai wrth golwg360.
Mae Helen Kalliope Smith, sy’n hanner Groeges ei hun, wedi caru cathod ers cyn cof. Mae ganddi bedair ar hyn o bryd – Maria sy’n 13, Seren sy’n 10 ac Ozzy a Margarita sy’n wyth.
“Maen nhw’n annwyl. Dw i’n caru cathod am wn i am fod mam a dad yn caru cathod, mae’n rhywbeth teuluol. Roedd mam o Wlad Groeg ac yn caru cathod, roedd ei mam hi’n caru cathod, felly mae’n rhedeg yn y teulu.”
“Pobol garedig”
Mae Ozzy yn gath sy’n crwydro, ac yn aml mae ei berchennog yn cael help ei chymdogion i ddod o hyd iddo.
Ac mae hynny yn gwneud i Helen Kalliope Smith gredu bod ewyllys da pobol yn dal yn fyw.
“Dw i’n hynod o ddiolchgar i’r rhai sydd wedi bod yn ffonio fi a rhoi gwybod i fi ynglŷn ag antics Ozzy,” meddai.
“Maen nhw’n casglu’r rhif ffôn ar ei ddisg a ffonio a chwarae teg, mae yna bobol hynod o garedig o gwmpas.
“Dw i’n dal i gredu bod yna lot fwy o bobol garedig nag oes yna o bobol greulon. Mae dameg y Samariaid Trugarog yn dal yn fyw hyd heddiw.”
Palmentydd ac addysg Gymraeg
Mae Helen Kalliope Smith yn dweud ei bod eisiau cael ei hethol yn gynghorydd er mwyn gwella safon y ffyrdd a’r palmentydd yn yr ardal, a lleihau cyflymder ceir ar rai lonydd hefyd.
Ac mae addysg cyfrwng Cymraeg yn fater pwysig iddi – mae yn credu bod angen cymryd camau i ddatrys problemau Ysgol y Mynydd Bychan, sy’n “orlawn”.