Cynghorydd Sion Jones
Mae Siôn Jones wedi cynrychioli ward Bethel ger Caernarfon ers pum mlynedd bellach, ac yn hoff o osod a chyrraedd targedau.

Mae’r cynghorydd Llafur yn gallu brolio iddo ddenu dros £500,000 mewn grantiau i’w etholaeth hyd yma, ac mae’n anelu at gyrraedd y miliwn erbyn 2021… os y caiff ei ail-ethol.

Ac mae’n dawel ffyddiog y bydd yn dychwelyd i’w swydd yn dilyn yr etholiad ac yn parhau i gyrraedd targedau.

“Pam wnes i sefyll pum mlynedd yn ôl o’n i’n ugain oed ac yn blaid Lafur. Ond oedd pobol wirioneddol angen newid yn eu hetholaeth,” meddai wrth golwg360.

“Erbyn rŵan, bum mlynedd wedyn, mae gen i brofiad mawr yn y swydd, rydan ni wedi medru denu cyfleusterau a grantiau mawr i’r gymuned gwerth dros hanner miliwn. Mae cefnogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros bum mlynedd, felly ‘da ni’n eitha’ ffyddiog.”

Fel ymgyrchydd sydd yn hoff o herio ei hun mae Siôn Jones yn gobeithio cynyddu ei ganran o’r bleidlais y flwyddyn yma – llwyddodd ennill â 59% o’r bleidlais yn 2012.

“Rydan ni’n anelu tro yma i gael 80% o’r bleidlais,” meddai. “Mae pobol wedi troi o bleidleisio dros y cynghorydd diwethaf ac wedi troi ata i dro yma, yn gwybod y gwaith da ni’n gwneud. Mae o’n dipyn o her ond ‘da’n ni’n wirioneddol credu ei fod o’n realistig”

Gosod targedau

Mae Siôn Jones eisoes wedi denu £540,000 mewn grantiau i Fethel hyd yn hyn ond mae’r ymgeisydd yn gobeithio medru dychwelyd wedi’r etholiad i gwblhau ei waith.

“Mae’n mynd yn dda iawn,” meddai. “Mae gynnon ni brojectau ar y gweill. Rydan ni wedi medru cyflawni lot o’r projectau yn ystod y term yma. Ond mae yna lot mwy o brojectau ydan ni isio neud.

“Rydan ni isio cael adeilad newydd i’r cae pêl-droed, datblygu’r cae chwarae ymhellach, a lot o brojectau bach eraill. Mae’r ffigwr £1,000,000 erbyn 2021 yn realistig, a dw i’n ffyddiog iawn gwnawn ni gyrraedd y nod yna.”

Dywed Siôn Jones bod y gymuned ym Methel wedi “gweld y gwahaniaeth” yn sgil buddsoddiad y grantiau ac mae’n ffyddiog ei fod wedi ennill “cefnogaeth fawr” trwy ei waith.

10 blynedd

Mae Siôn Jones yn gobeithio cyflawni ei amcanion o fewn degawd ond mae’n awgrymu bydd ei brosiect nesaf  heb ei gyfyngu i Fethel.

“Dw i ddim yn mynd i wneud term arall ar ôl hon ym Methel. Gawn ni weld wedyn beth fydd yn digwydd ar ôl hynny.”

“Mae deg blynedd yn ddigon o amser i wneud beth ‘da chi isio gwneud. Mae 10 blynedd yn hen ddigon o amser i osod targedau a chyrraedd nhw.”